Amdanom Ni
Sefydlwyd ein elusen ar brofiad bywyd a dealltwriaeth ddofn o’r effaith hirdymor o fabwysiadu a thrawma plentyndod. Am sawl blwyddyn, mae ein Cadeirydd Ymddiriedolwyr, Glesni, wedi bod yn ymroddedig i gefnogi unigolion sydd wedi’u heffeithio gan fabwysiadu trwy asiantaeth gymorth mabwysiadu o’r enw Adoption Finder Intermediary Service — gan helpu pobl i gael mynediad at gofnodion, olrhain cysylltiadau teuluol, a llywio’r daith gymhleth o gyswllt a hunaniaeth.
Drwy’r gwaith hwn, daeth yn amlwg er bod cymorth ymarferol ar gael, bod diffyg sylweddol o gymorth emosiynol arbenigol i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan fabwysiadu a thrawma cynnar. Ysgogodd y bwlch hwn greu ein heselus — lle gall pobl gael gofal a chymorth tosturiol, wedi’i lywio gan ddealltwriaeth o drauma, pan fyddant ei angen fwyaf.
Glesni Evans
Mae'n fraint i mi fod yn sylfaenydd ac i reoli’r elusen hon ar sail ddyddiol fel gwirfoddolwr. Mae fy nghefndir fel gweithiwr cymdeithasol wedi fy ngalluogi i weithio mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys diogelu plant, cam-drin domestig, camddefnyddio sylweddau, cefnogi plant gyda anableddau, problemau iechyd meddwl, a mabwysiadu. Rwyf bob amser wedi mwynhau gweithio gyda theuluoedd, ond trwy fy mhrofiad, deuthum i gydnabod bod angen clir am gymorth therapiwtig arbenigol er mwyn creu newid parhaol ac ystyrlon.
Rwyf wedi gweld pa mor heriol y gall fod i unigolion ddatblygu sgiliau gofal plant cadarnhaol pan fo nhw eu hunain wedi profiad o fagu negyddol neu drafferthus yn eu bywydau eu hunain. Ers 2020, rwyf wedi bod yn rhedeg Asiantaeth Cymorth Mabwysiadu o’r enw Adoption Finder Intermediary Service, drwyddi draw rwyf wedi ennill dealttdwriaeth dyfnach o’r heriau cymhleth sydd o flaen oedolion sydd wedi’u heffeithio gan fabwysiadu. Mae wedi dod yn amlwg bod diffyg sylweddol o gymorth priodol ac arbenigol ar gael i ddiwallu eu hanghenion yn aml iawn.
Colled dorcalonnus
Pwrpas
Gweledigaeth
Cenhadaeth
Rydym yn darparu mynediad at therapi briodol, wedi’i lywio gan ddealltwriaeth o drauma, cymorth gan gymheiriaid, a rhaglenni cymunedol sy’n grymuso unigolion a theuluoedd i iacháu, tyfu, a ffynnu. Mae ein cymorth wedi’i seilio ar dosturi, profiad byw, a ymrwymiad i greu mannau diogel, heb farn.
Gwerthoedd Craidd
- Cynhwysiant — Creu mannau diogel lle mae pob llais yn cael ei werthfawrogi ac nid oes neb yn cael ei farnu.
- Tosturi — Cynnig gofal sydd yn dyner, dynol, cyfeillgar ac wedi’i wreiddio mewn empathi.
- Profiad Byw — Gwrando ar a dysgu oddi wrth y rhai sydd wedi cerdded y llwybrau hyn.
- Grymuso — Cefnogi pobl i iacháu, tyfu, a chymryd yr arweiniad yn eu bywydau eu hunain.
Dadganiad
Rydym yn elusen sydd wedi’i chysylltu’n ddwfn â’r gymuned leol, yn cynnig cymorth diogel a thosturiol i bobl sydd wedi’u heffeithio gan drawma sy’n gysylltiedig â mabwysiadu. Trwy gyfuno cynghori hygyrch a arweinir gan ymarferwyr arbenigol, gofal emosiynol, a mewnwelediad, rydym yn creu lle unigryw ar gyfer iachâd, cysylltiad, a dealltwriaeth. Wedi’i sefydlu gan bobl gyda phrofiad byw, mae ein cymorth wedi’i siapio gan leisiau go iawn — nid dim ond polisi. Ysbrydolodd eu profiadau greu elusen lle mae gofal tosturiol, wedi’i lywio gan drauma, bob amser o fewn cyrraedd.