Yr Hyn a Wnawn

Gall mabwysiadu a thrawma plentyndod gael effaith ddofn a pharhaol. Boed rhywun yn berson a fabwysiadwyd, yn berthynas geni, neu’n rhiant mabwysiadol, gall y profiadau hyn ddod â heriau emosiynol, seicolegol, cymdeithasol ac yn ymwneud â hunaniaeth. Yn aml, mae’r effeithiau hyn yn gael effaith a'r bob agwedd o fywyd — o les ac addfwynder i berthnasoedd a synnwyr o hunaniaeth.

Cymorth emosiynol a therapiwtig arbenigol

Iachâd a Dealltwriaeth

Rydym yn darparu cymorth emosiynol a therapiwtig arbenigol i oedolion a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan fabwysiadu a thrawma plentyndod. Ein nod yw nid yn unig cefnogi iachâd a dealltwriaeth, ond hefyd codi amwybyddiaeth ar yr heriau unigryw a chudd y mae’r rhai sy’n byw gyda’r profiadau hyn yn eu hwynebu.

Ein Cred

Mae No Shame wedi’i seilio ar y gred na ddylai neb deimlo cywilydd — boed hynny’n gysylltiedig â mabwysiadu, rhoi plentyn i’w fabwysiadu, cael cymorth iechyd meddwl, neu gael eich magu mewn gofal. Am gyfnod rhy hir, yn enwedig yn ystod oes mabwysiadu hanesyddol, roedd cymdeithas yn trin cael plentyn y tu allan i briodas fel rhywbeth cywilyddus. O ganlyniad, mae llawer o famau geni wedi cario baich dirgelwch a distawrwydd gydol eu hoes, yn aml heb y gefnogaeth na’r ddealltwriaeth y maen nhw’n eu haeddu. Yn ffodus, mae’r amseroedd wedi newid, ac erbyn heddiw mae mwy o agoredrwydd a derbyniad o strwythurau teuluol amrywiol, ynghyd â chydnabyddiaeth gynyddol nad oes un llwybr unigryw at fywyd da, cariadus neu ystyrlon.

Pam y dant y llew?
Mae ein logo — y dant y llew — yn adlewyrchu ysbryd ein gwaith. Yn aml yn cael ei weld fel chwyn, mae’r dant y llew mewn gwirionedd yn symbol pwerus o wydnwch, gobaith a thrawsnewid. Mae’n ffynnu mewn amodau heriol ac mae ei hadau, a gludir gan y gwynt, yn cynrychioli dymuniadau, dechrau newydd, a’r dewrder i dyfu i gyfeiriadau newydd. I ni, mae’n siarad am iachâd, galar, cylch bywyd, a’r daith o ddod yn wir hunan rhywun.

Rydym yn falch o fod yn rhan o fudiad sy’n gwerthfawrogi tosturi, cynhwysiant, a lles emosiynol. Credwn bod gael cymorth iechyd meddwl yw gweithred ddewr — nid yn wendid.

Ni ddylai neb erioed deimlo cywilydd am eu stori, eu dewisiadau, neu am estyn allan am y cymorth y maen nhw’n ei haeddu.

Rydym yn gweithio gyda:

cyWelsh